Dathlu Rhagoriaeth: Dyfarniad Cymrodoriaeth gan IEP i Ali Thomas

Ali Thomas

Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein Prif Weithredwr Ali Thomas wedi ennill Cymrodoriaeth gan yr Institute of Employability Professionals (IEP). Mae hwn yn anrhydedd haeddiannol iawn i ymroddiad a gwaith caled Ali dros y blynyddoedd mewn cyflogadwyedd.

Gyda newidiadau mor sylweddol yn digwydd ym maes cefnogi cyflogadwyedd ar hyn o bryd, mae cysylltiad â chorff proffesiynol sy’n deall y cyfleoedd a’r heriau, ac sydd yno i gefnogi a chynrychioli ei aelodau, mor bwysig.

Mae RCS wedi bod yn aelod corfforaethol o’r IEP ers nifer o flynyddoedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi gweld ein tîm staff yn elwa’n fawr o’r gefnogaeth broffesiynol, hyfforddiant ac arweiniad rydym wedi eu derbyn drwy ein haelodaeth.

Diolch i Scott, Anita a Pat am y cyfle hwn, rwy’n edrych ymlaen yn arw at weithio gyda’r tîm IEP i gryfhau cysylltiadau ymhellach, meithrin dulliau cydweithredol a datblygu sgiliau gyda’r nod o gyflawni canlyniadau cadarnhaol i bawb yr ydym yn gweithio i’w cefnogi.

Ali Thomas, Prif Weithredwr