-
Gorffwys a Dadflino: Y Gweithdy Cwsg Hanfodol -
Eich Cyfle i Ddisgleirio: Gweithdy Cyfweliad Campus -
Cael Sylw: Clinig CV a Cheisiadau am Swydd -
Chwilio doeth, Canlyniad Llwyddiannus: Chwilio am Swydd -
Llai o Straen, Mwy o Lwyddiant: Rheoli Pryder a Gorbryder -
Cael Amser ar Eich Ochr Chi: Prydlondeb a Chynllunio -
Hunanofal -
Creu Argraff -
Hyder a Chymhelliant
Rydym yn cynnig detholiad eang o weithdai difyr i’ch ysbrydoli a’ch helpu i osod eich nodau gwaith a’u cyflawni. Mae ein hyfforddwyr proffesiynol y n rhannu awgrymiadau gorau, dulliau a thechnegau i’ch helpu i wella’ch sgiliau allweddol a datblygu ymddygiadau newydd, gan ddefnyddio eu gwybodaeth gynhwysfawr a’u profiad yn y sector cymorth gwaith. Gyda sesiynau ymarferol, rhyngweithiol ac ystod o adnoddau a chyrsiau ychwanegol sy’n sicr o wella cyflogadwyedd a meithrin hyder, cymhelliant a sgiliau bywyd.
Gall pob gweithdy gael ei gyflwyno wyneb yn wyneb neu ar-lein, yn Gymraeg neu’n Saesneg. Rydym yn argymell cael rhwng 6 a 12 o gyfranogwyr i alluogi cyfleoedd da ar gyfer rhyngweithio.
Mae ein dyfynbrisiau ar gyfer cyflwyniad ar-lein; cysylltwch â ni am ddyfynbris os hoffech gwrs wyneb yn wyneb.
I gael gwybod mwy neu i archebu cwrs, cysylltwch â ni drwy’r ffurflen isod.
Fe wnes i ddysgu llawer yn sicr. Roeddwn yn teimlo ei fod yn ddifyr iawn ac wedi fy helpu i sylwi lle’r oeddwn i angen gwella.
Hynod gyfeillgar a llawn gwybodaeth. Fe wnes i ei fwynhau’n fawr. Fe wnes i ddysgu llawer ac fe gefais gyfle i leisio fy marn.
Gweminar wedi’i chyflwyno’n dda gyda digon o ryngweithio ac ystafelloedd ‘break out’.