Gall rolau gwaith achos prysur a chymhleth effeithio ar eich iechyd meddyliol ac emosiynol. Byddwn yn eich arwain yn ofalus tuag at ddeall a rhoi strategaethau hunanofal tosturiol a chymorth gan gymheiriaid ar waith, fel y gallwch barhau â’ch gwaith allweddol gydag ymdeimlad o sefydlogrwydd a phwrpas o’r newydd.
Uchafbwyntiau’r Sesiwn
- Safbwynt tosturiol: Datblygu dealltwriaeth ddyfnach effaith trawma, straen a gorflinder
- Cydnabod bregusrwydd: Dysgu sut i adnabod arwyddion a symptomau gorflinder a thrawma ynoch eich hun a’ch cydweithwyr gydag empathi.
- Arferion llesiant ystyrlon: Meithrin mecanweithiau cymorth ymarferol y gellir eu plethu i’ch trefn bob dydd, gan feithrin ffyrdd mwy caredig a chynaliadwy o weithio.