Gall hyrwyddwyr llesiant ddarparu cymorth rheng flaen ar gyfer cydweithwyr a helpu i yrru a gwreiddio diwylliant llesiant cadarnhaol yn y gweithle.  Bydd y gweithdy hwn yn rhoi’r sgiliau hanfodol i chi i ddod yn Hyrwyddwr Llesiant effeithiol yn y gweithle. Dyma’n sesiwn hyfforddiant mwyaf poblogaidd, gyda thros 380 o Hyrwyddwyr Llesiant wedi’u hyfforddi ledled Cymru hyd yn hyn.

Bydd pawb sy’n cwblhau’r gweithdy yn cael eu gwahodd i fynychu ein digwyddiadau rhwydweithio Hyrwyddwyr Llesiant ar-lein chwarterol ar gyfer hyfforddiant, cyngor gan gymheiriaid, a chefnogaeth barhaus.

Uchafbwyntiau’r sesiwn:

  • Sgyrsiau Lles: Dysgwch sut i gychwyn a llywio trafodaethau ystyrlon.
  • Gwrando’n Weithredol: Meistroli’r grefft o wrando ar eraill a’u deall go iawn.
  • Ffiniau Iach: Darganfyddwch sut i gadw cydbwysedd ac atal gorweithio.
  • Cwestiynau Agored: Sut i wella eich cyfathrebu gyda thechnegau cwestiynu effeithiol.
  • Empathi a Sgiliau Cyfathrebu: Adeiladwch berthnasoedd cryfach, mwy cefnogol.
  • Trefnu Digwyddiadau Llesiant: Cyfle i gael cynghorion ymarferol ar gyfer cynllunio digwyddiadau sy’n cael effaith.
  • Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a Rheoli Straen: Cynyddwch eich gwybodaeth a chefnogi eich cydweithwyr.

Cysylltwch â ni

Hyrwyddwyr Lles

This field is for validation purposes and should be left unchanged.
Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau 9:30am i 4:30pm a dydd Gwener 9:30am i 4:00pm.