Goruchwylio a Pherfformiad


​Mae goruchwyliaeth a rheoli perfformiad yn rhan allweddol o ddatblygu timau llwyddiannus a chefnogi twf a datblygiad yn y gwaith. Mae’r gweithdy hwn wedi’i deilwra i arfogi arweinwyr tîm a rheolwyr gyda’r sgiliau a’r strategaethau hanfodol ar gyfer arwain timau effeithiol a chynnal amgylchedd gwaith sy’n iach a chefnogol.

Uchafbwyntiau’r Sesiwn:

  • Goruchwyliaeth Dda: Deall egwyddorion goruchwyliaeth effeithiol, dysgu sut i strwythuro sesiynau llwyddiannus ac integreiddio arferion llesiant yn eich dull.
  • Cynnal Cydbwysedd: Dysgu strategaethau i gydbwyso anghenion sefydliadol ag amcanion unigol.
  • Gosod Nodau, Targedau, Amcanion: Meistroli’r grefft o osod nodau eglur y mae modd eu cyflawni.
  • Cyfathrebu Effeithiol: Gwella eich technegau gwrando a chwestiynu ar gyfer gwell cyfathrebu.
  • Rhoi Adborth: Dysgwch sut i ddarparu adborth cadarnhaol sy’n cymell ac yn arwain.
  • Ffordd o Feddwl sy’n Ysgogi Twf: Cyfle i feithrin ffordd o feddwl sy’n ysgogi twf o fewn eich tîm.
  • Sgyrsiau Anodd: Cyfle i ennill hyder wrth ymdrin â sefyllfaoedd heriol.
  • Sefyllfaoedd Adborth: Ymarfer sefyllfaoedd rhoi adborth go iawn.
  • Gwirio Tymheredd Llwyth Gwaith: Monitro a rheoli llwyth gwaith eich tîm yn llwyddiannus.

Ymholiad Gweithdy Hyfforddi

Ymholiad Gweithdy Hyfforddi

This field is for validation purposes and should be left unchanged.
Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau 9:30am i 4:30pm a dydd Gwener 9:30am i 4:00pm.