Mae manteision profedig ar gyfer ein hiechyd meddwl o gael noson dda o gwsg, gan gynnwys lleihau straen a gorbryder a gwella ein hwyliau. Os ydych chi’n cael trafferth cysgu, gall dysgu sut i gysgu’n well wneud gwahaniaeth mawr. Mae’r gweithdy hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r dulliau i chi allu cael ansawdd cwsg gwell a gwella eich llesiant cyffredinol.

Uchafbwyntiau’r sesiwn:

  • Diffyg Cwsg: Dysgwch sut i adnabod os ydych chi wedi eich amddifadu o gwsg.
  • Effeithiau Bod yn Flinedig: Cyfle i ddeall sut mae diffyg cwsg yn cael effaith ar ein hymennydd a’n corff.
  • Rhythmau Beunyddiol a Chylchredau Cwsg: Archwiliwch batrymau naturiol sy’n rheoli ein cwsg.
  • Anghenion a Chamau Cwsg: Dysgwch faint o gwsg rydych chi wirioneddol ei angen a’r gwahanol gamau o ran cwsg.
  • Gwyddor Cwsg Ddiweddaraf: Cyfle i gael mewnwelediadau wedi’u diweddaru i waith ymchwil ar gwsg.
  • Gwella eich Cwsg: Derbyniwch gynghorion ymarferol ar wella eich amgylchedd cysgu, rheoli ysgogiadau, sefydlu trefn a mynd i’r afael gyda meddyliau sy’n amharu ar ein cwsg.

Ymholiad Gweithdy Hyfforddi

Ymholiad Gweithdy Hyfforddi

This field is for validation purposes and should be left unchanged.
Oriau agor yw Dydd Llun – Iau 9.30am – tan 4.30pm, Dydd Gwener 9.30am tan 4pm.