Ydych chi’n awyddus i wella eich sgiliau ac ymdopi gyda sefyllfaoedd heriol? Mae’r gweithdy hwn wedi’i gynllunio i’ch darparu gyda’r wybodaeth a’r adnoddau i lywio eich ffordd drwy sefyllfaoedd anodd gyda hyder ac empathi, gan roi mewnwelediadau gwerthfawr a strategaethau ymarferol.
Uchafbwyntiau’r Sesiwn:
- Beth yw Sgwrs Anodd: Deall natur sgyrsiau anodd a pham maent yn digwydd.
- Model Mynydd Iâ: Dysgwch am y model mynydd iâ er mwyn dadorchuddio problemau o dan yr wyneb.
- Newid Ymddygiad: Archwiliwch theorïau sy’n gallu helpu i hwyluso newid ymddygiad.
- Cyfathrebu: Darganfyddwch y ffyrdd gorau o gyfathrebu’n effeithiol, meistroli’r grefft o wrando, gwella eich sgiliau cwestiynu a dysgu pŵer tawelwch
- Rhannu Adborth: Datblygwch sgiliau er mwyn darparu adborth cadarnhaol.
- Delio gyda Gwrthdaro: Deall rôl empathi a dysgu strategaethau i reoli a datrys gwrthdaro.
- Modelu gan Oedolion: Dysgwch oddi wrth enghreifftiau a modelau gan gyfoedion er mwyn gwella eich sgiliau.
