Rydym yn derbyn galw eithriadol o uchel am y Gwasanaeth Cymorth Mewn Gwaith ar hyn o bryd, a bellach yn orlawn.
Ar hyn o bryd dim ond nifer cyfyngedig o apwyntiadau cofrestru newydd y gallwn eu cynnig. Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr yn nhrefn dyddiad pan fydd lle ar gael.
Cliciwch yma i gael manylion am gymorth arall a allai fod ar gael i chi.
Diolch am eich dealltwriaeth.
Rhaglen Hyrwyddwyr Llesiant
Yn 2020, fe wnaethom lansio ein rhaglen hyfforddi hyrwyddwyr llesiant er mwyn helpu cyflogwyr i ymateb i anghenion llesiant eu staff yn ystod y pandemig. Ers hynny, mae bron i 250 o unigolion wedi cymryd rhan yn y rhaglen o blith cymysgedd o Fusnesau Bach a Chanolig, colegau, cartrefi gofal, elusennau a byrddau iechyd.
Yn aml, Hyrwyddwyr Llesiant yw’r bobl gyntaf y bydd cydweithwyr yn troi atynt pan fyddant yn cael trafferthion yn y gwaith. Gallant gynnig clust i wrando ac maent wedi’u hyfforddi i gyfeirio staff at arbenigwr neu gymorth priodol pan fo angen. Hefyd, gallant drefnu a hyrwyddo mentrau llesiant yn y gwaith, gan helpu i greu diwylliant cadarnhaol o ran llesiant.
Gellir dilyn y cwrs hyfforddi hyrwyddwyr llesiant ar-lein neu’n fewnol. Mae’n cynnwys sesiwn hyfforddiant tair awr o hyd, bydd angen cwblhau llyfrau gwaith ar-lein a bydd modd cael gafael ar adnoddau ar ffurf pecyn cymorth. Mae’r cwrs ar gael yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
Bydd y cwrs yn helpu’r cynrychiolwyr i wneud y canlynol:
- Archwilio beth yn union y mae hyrwyddwyr llesiant yn ei wneud / ddim yn ei wneud
- Deall rôl a chyfrifoldebau hyrwyddwyr llesiant
- Meithrin sgiliau o ran gwrando empathig a gweithredol
- Archwilio syniadau ar gyfer cynllunio gweithgareddau llesiant a darparu adnoddau ar eu cyfer.
Bydd pawb a fydd yn cwblhau’r cwrs yn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfodydd ar-lein y rhwydwaith bob chwarter. Mae’r cyfarfodydd hyn yn rhoi cyfle i’n hyrwyddwyr llesiant gysylltu â’i gilydd, yn ogystal â mynd i’r afael â datblygiad proffesiynol parhaus trwy gyfrwng sesiynau hyfforddiant dilynol a chyflwyniadau gan siaradwyr gwadd.
Mae’r rhaglen yn rhan ganolog o strategaeth lesiant unrhyw sefydliad, gan greu adnodd mewnol dynamig a all gynnig cefnogaeth gan gymheiriaid i gydweithwyr a helpu i ysgogi ac ymwreiddio diwylliant llesiant yn y gweithle.
“Hwylusydd rhagorol a oedd yn gwybod llawer am y pwnc – hyfforddiant gwych sy’n cynnig sylfaen dda i unrhyw un sy’n newydd i’r rôl.”
“Cafodd yr hyfforddiant ei gyflwyno’n dda ac roeddwn i’n hoffi’r syniadau ynglŷn â gweithgareddau a chyfeirio staff at safleoedd cymorth. Llawer i feddwl amdano. Gwych oedd cael cymorth ac arweiniad o ran beth i’w wneud fel Hyrwyddwr Llesiant; fel arall, gall y rôl fod braidd yn ddigefnogaeth ac aneglur.”
“Cefais flas mawr ar y sesiwn heddiw. Cefais gyngor a syniadau gwych ar gyfer dechrau gwella llesiant yn y gweithle.”
“Diolch am y cwrs hyfforddiant hwn. Rydw i’n teimlo’n llawer mwy hyderus ynglŷn â bod yn hyrwyddwr llesiant.”
I gael manylion am ddyddiadau cyrsiau sydd i ddod, edrychwch ar Eventbrite yma, neu llenwch ein e-ffurflen atgyfeirio neu gofynnwch inni eich ffonio’n ôl i gael gwybodaeth am gynnal cwrs ar gyfer eich tîm
Os ydych yn Fusnes Bach a Chanolig (llai na 250 o weithwyr) yng Ngogledd, Gorllewin neu Dde-orllewin Cymru, efallai eich bod yn gymwys i gael hyfforddiant am ddim.