Claire Lynch o RCS yn cyrraedd Rownd Derfynol Gwobrau IEP

Claire Lynch an other finalists on stage holding award certificate

Rydym yn eithriadol o falch o gael cyhoeddi bod Claire Lynch, ein Rheolwr Hyfforddi, wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Aelod y Flwyddyn 2025 Sefydliad y Gweithwyr Proffesiynol Cyflogadwyedd (IEP) ym mis Hydref.

Mae’r wobr fawreddog hon yn cydnabod aelodau o’r DU, Awstralia a Sweden ar sail eu gwasanaeth a’u hymrwymiad eithriadol. Cyhoeddwyd yr enillwyr yng Nghanolfan yr IEP ym Manceinion ar 3 Hydref.

Er na lwyddodd Claire i gyrraedd y brig y tro hwn, mae’r ffaith ei bod wedi cael ei chynnwys ar y rhestr fer yn gamp anhygoel, gan gydnabod ei hangerdd a’r effaith wirioneddol a gaiff.

Ymunwch â ni i longyfarch Claire a phawb arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol – mae pob un ohonynt yn gwneud gwahaniaeth ledled y sector!