Gweithdai Cyflogadwyedd

Rydym yn cynnig detholiad eang o weithdai difyr i’ch ysbrydoli a’ch helpu i osod eich nodau gwaith a’u cyflawni. Mae ein hyfforddwyr proffesiynol y n rhannu awgrymiadau gorau, dulliau a thechnegau i’ch helpu i wella’ch sgiliau allweddol a datblygu ymddygiadau newydd, gan ddefnyddio eu gwybodaeth gynhwysfawr a’u profiad yn y sector cymorth gwaith. Gyda sesiynau ymarferol, rhyngweithiol ac ystod o adnoddau a chyrsiau ychwanegol sy’n sicr o wella cyflogadwyedd a meithrin hyder, cymhelliant a sgiliau bywyd.

Gall pob gweithdy gael ei gyflwyno wyneb yn wyneb neu ar-lein, yn Gymraeg neu’n Saesneg. Rydym yn argymell cael rhwng 6 a 12 o gyfranogwyr i alluogi cyfleoedd da ar gyfer rhyngweithio.

Mae ein dyfynbrisiau ar gyfer cyflwyniad ar-lein; cysylltwch â ni am ddyfynbris os hoffech gwrs wyneb yn wyneb.

I gael gwybod mwy neu i archebu cwrs, cysylltwch â ni drwy’r ffurflen isod.

Cysylltwch â ni

Hyrwyddwyr Lles

This field is for validation purposes and should be left unchanged.
Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau 9:30am i 4:30pm a dydd Gwener 9:30am i 4:00pm.