Mae RCS wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol lle gall pawb ffynnu. Rydym yn gweld gwerth mewn amrywiaeth ac yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir.
I ymgeisio ar gyfer unrhyw un o’n swyddi, ewch i’n tudalen swyddi gwag a chliciwch ar y ddolen ymgeisio.
Os byddai’n well gennych gyflwyno cais ar bapur neu ar ffurf fideo, neu os oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau arnoch ar unrhyw gam o’r broses ymgeisio, cysylltwch drwy recruitment@rcs-wales.co.uk. Byddwn yn gwneud ein gorau i’ch cefnogi fel y gallwch ddangos eich gwir gryfderau i ni.
Dyma y gallwch chi ei ddisgwyl pan fyddwch yn gwneud cais am swydd gyda ni:
Ewch i’n tudalen swyddi gwag a chliciwch ar Ymgeisio Nawr ar gyfer y swydd sydd o ddiddordeb i chi.
Cwblhewch y ffurflen gais – byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fyddwn wedi ei derbyn.
Byddwn yn eich hysbysu os ydych wedi eich dewis ar gyfer cyfweliad o fewn 2 wythnos o’r dyddiad cau.
Mae eich cyfweliad yn gyfle i chi ddisgrifio sut mae eich sgiliau a’ch profiad yn bodloni ein hanghenion a denu sylw’r cyflogwr. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi ar ddiwedd y cyfweliad pryd y gallwch ddisgwyl derbyn y canlyniad.
Os na fuoch yn llwyddiannus y tro hwn, gallwn ddarparu adborth i’ch cefnogi gyda cheisiadau yn y dyfodol.
Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella ac yn croesawu eich adborth i’n helpu i wneud y broses ymgeisio mor hawdd a hygyrch â phosibl.
Nid wyf erioed wedi gweithio i sefydliad sydd wir yn rhoi llesiant uwchlaw popeth arall, sydd, drwy hynny, yn galluogi i’n staff roi’r gwasanaeth gorau posibl i’n cleientiaid.
Rwyf mor falch fy mod wedi ymgeisio ac wedi cael y swydd. Rwyf wrth fy modd yn gweithio mewn amgylchedd lle gallaf wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl. Rwyf mor angerddol am y gwaith mae RCS yn ei wneud, gallaf siarad amdanynt yn ddi bendraw.
Mae gen i golled clyw. Wrth ymuno â RCS roedden nhw’n hapus i brynu offer hanfodol i mi allu defnyddio ffôn symudol, yn hytrach nag aros i gais Mynediad i Waith fynd drwodd (ac ers hynny maen nhw wedi’i ddisodli pan oedd wedi gwisgo allan). Roedd hyn yn golygu fy mod i’n teimlo fy mod i wedi cael fy nghynnwys yn llawn o’r dechrau, yn enwedig gan fod fy rôl yn cynnwys llawer o waith ffôn.