Mae ein hymagwedd ragweithiol at lesiant yn y gwaith yn helpu ein gweithwyr gynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.
Mae ein buddion i weithiwyr yn cynnwys:
30 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc *
Cyflogau teg, cystadleuol
Ystod o opsiynau gweithio hyblyg
Cyfraniad pensiwn cyflogwr o 6%**
Cyfleoedd hyfforddi a datblygu
Awr llesiant wythnosol â thal*
Cymorth iechyd i weithwyr
Gwell tâl salwch, mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu**
Gweithgareddau a digwyddiadau llesiant tîm
Cynllun beicio i’r gwaith a thalebau gostyngiadau siopau manwerthu
* Pro rata
** Yn amodol ar argaeledd
Rwyf wir yn gwerthfawrogi’r dull gweithio hyblyg. Rwyf yn gallu cymryd mwy o amser i ganolbwyntio ar y pethau sy’n bwysig i mi, a mynd i apwyntiadau yn yr ysbyty heb deimlo fel bod fy nghyflwr iechyd yn rhwystr i’m swydd neu i’r tîm.
Roedd yr awr llesiant yn gymorth mawr i mi. Fel mam i ddau o blant dan bedair, mae cael awr pob wythnos ar gyfer fi fy hun i flaenoriaethu fy llesiant mor werthfawr - mae’r awr lesiant wedi fy helpu i ddod o hyd i’r cydbwysedd cywir rhwng bywyd cartref a gwaith, gan roi’r cyfle i mi roi fy hun yn gyntaf, a fy helpu i ganolbwyntio mwy yn y gwaith am fy mod yn teimlo’n llai blinedig a bod fy llesiant yn cael ei gymryd od ddifrif.
Rwy’n gwerthfawrogi'r diwylliant lles cadarnhaol yn RCS Cymru yn fawr. Mae lles gweithwyr yn un o brif flaenoriaethau RCS. Mae’r amser te llesiant yn darparu cyfle i gael egwyl a chael hwyl gyda chyd-weithwyr, hyd yn oed y rheiny sydd ar hyd a lled y wlad. Mae’r Awr Llesiant yn gynllun unigryw nad oeddwn wedi dod ar ei draws cyn ymuno â RCS, ac rwy’n dal i edrych ymlaen ato pob wythnos - nid yw’r cyffro wedi peidio hyd yn hyn!
Yn ystod cyfnod o waelder difrifol, cefais gefnogaeth lles parhaus a mentrau gofal mor wych gan RCS, sydd wedi caniatáu i mi barhau yn y swydd rydw i wrth fy modd â hi a pharhau i weithio gyda thîm mor wych.