Fel cyflogwr llesiant, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau fod ein staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’’u cefnogi yn y gwaith. O weithio hyblyg i ystod o fanteision llesiant, rydym yn creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle gall ein gweithwyr ffynnu.
Fel aelodau achrededig o’r Sefydliad Cyflog Byw, rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod ein holl staff yn derbyn cyflog teg fel y gallant fyw gydag urddas a sicrwydd.
Rydym yn cadw’n proses recriwtio mor syml â phosib ac yn hapus i ystyried ceisiadau mewn fformatau gwahanol pe gofynnir am hynny.
Nid yw staff yn ein gadael yn aml, ond yn achlysurol mae angen i ni recriwtio, felly cadwch lygad am ein swyddi gwag.
Rwy’n gwerthfawrogi'r diwylliant lles cadarnhaol yn RCS Cymru yn fawr. Mae lles gweithwyr yn un o brif flaenoriaethau RCS. Mae’r amser te llesiant yn darparu cyfle i gael egwyl a chael hwyl gyda chyd-weithwyr, hyd yn oed y rheiny sydd ar hyd a lled y wlad. Mae’r Awr Llesiant yn gynllun unigryw nad oeddwn wedi dod ar ei draws cyn ymuno â RCS, ac rwy’n dal i edrych ymlaen ato pob wythnos - nid yw’r cyffro wedi peidio hyd yn hyn!
Yn ystod cyfnod o waelder difrifol, cefais gefnogaeth lles parhaus a mentrau gofal mor wych gan RCS, sydd wedi caniatáu i mi barhau yn y swydd rydw i wrth fy modd â hi a pharhau i weithio gyda thîm mor wych.
Rwy’n teimlo eu bod yn ymddiried ynof i weithio i amserlen hyblyg, cymryd nifer priodol o egwylion, cysylltu â’m cydweithwyr a'r rheolwr tîm yn rheolaidd i sicrhau ein bod i gyd yn gweithio i roi’r profiad gorau i’r rheiny yr ydym yn gofalu amdanynt, a hynny fel tîm ac yn unigol.