Gall absenoldeb oherwydd salwch gael effaith sylweddol ar gynhyrchiant, elw a morâl. Mae’r gweithdy hwn yn trafod achosion absenoldeb, ac yn edrych ar ystod o ddulliau a strategaethau ar gyfer hyrwyddo presenoldeb ac yn atal absenoldebau tymor byr rhag troi’n broblem tymor-hir. Mae hefyd yn edrych ar sut i gael sgwrs onest ac adeiladol gyda gweithwyr wrth iddynt ddychwelyd i’r gwaith.
Uchafbwyntiau’r sesiwn:
- Trosolwg o achos a chost absenoldeb oherwydd salwch
- Pwysigrwydd llesiant fel rhan o’ch dull
- Dysgu am dechnegau cyfathrebu cadarnhaol
- Cyflwyno’r model MICE ar gyfer mynd i’r adael ag absenoldeb oherwydd salwch
- Pecyn adnoddau a chyfeirio at gymorth