Llai o Straen, Mwy o Lwyddiant: Rheoli Pryder a Gorbryder

Sut i atal pryderon rhag eich llethu, wynebu eich ofnau a’u goresgyn, ac ymdopi a phethau annisgwyl.

Dysgu sut i reoli straen, wynebu eich ofnau, a delio â phethau annisgwyl yn ystod eich cyfnod pontio i’r gwaith. Bydd y gweithdy hwn yn eich helpu i chwilio am swydd gyda hyder a thawelwch meddwl.

Uchafbwyntiau’r Sesiwn:

  • Peidio Cael eich Llethu: Dysgu sut i nodi ac atal pryderon rhag eich llethu fel y gallwch ganolbwyntio ar eich nodau.
  • Wynebu eich Ofnau: Trafod beth sy’n eich dal yn ôl a magu hyder i oresgyn y rhwystrau meddyliol hynny.
  • Ymdopi gyda Phethau Annisgwyl: Dysgu sut i ymdopi pan fydd pethau annisgwyl, heriau neu newidiadau’n codi a allai fwrw’ch cynnydd oddi ar y cledrau.
  • Meithrin Gwydnwch Parhaus: Datblygu pecyn offer personol o ffyrdd i ymdopi i’ch helpu i gynnal agwedd gadarnhaol a chytbwys.