Dros amser, gall chwilio am waith gael effaith ar eich hyder a lleihau’ch cymhelliant. Bydd y gweithdy hwn yn eich helpu i ddysgu sut i ddelio â rhwystrau, meithrin gwydnwch, a symud ymlaen gyda phwrpas.
Uchafbwyntiau’r Sesiwn:
- Eglurder ar Hyder: Fe fyddwn yn diffinio beth mae hyder a chymhelliant yn eu golygu fel eich bod yn gwybod beth yw’ch nod wrth ddatblygu.
- Datgloi eich Cymhelliant: Trafod yr hyn sydd wirioneddol yn eich cymell a deall y gwahaniaeth hollbwysig rhwng gyrwyr mewnol ac allanol.
- Mabwysiadu Ffordd o Feddwl sy’n Ysgogi Twf: Darganfod pŵer ffordd o feddwl sy’n ysgogi twf, sy’n eich galluogi i weld heriau fel cyfleoedd, nid diwedd y ffordd.
- Atal Pethau sy’n Gwastraffu Amser: Nodi pethau sy’n gwastraffu amser ac yn mynd â’ch egni a dysgu technegau syml i’ch cael yn ôl ar y trywydd iawn.
- Camau Syml i Hybu’ch Hyder: Ffyrdd cyflym o roi hwb i’ch hyder ar unwaith.
- Eich Cynllun Gweithredu Personol: Crëwch eich map ffordd eich hun i wireddu eich nodau gwaith.