Eich Cyfle i Ddisgleirio: Gweithdy Cyfweliad Campus

Sut i wynebu eich ofnau wrth gael eich cyfweld a dangos eich hun ar eich gorau. Ymarfer cyfweld go iawn i’ch helpu i wynebu sefyllfaoedd cyffredin.

Os yw pryder yn eich dal yn ôl mewn cyfweliadau, neu os ydych yn cael trafferth bod ar eich gorau o dan bwysau, mae’r gweithdy hwn wedi’i gynllunio i droi’ch ofnau’n hyder. Dysgu sut i wynebu eich ofnau a dechrau arddangos eich potensial!

Uchafbwyntiau’r Sesiwn:

Gallu cerdded i mewn i’ch cyfwelid nesaf yn barod ac yn hyderus:

  • Goresgyn Pryder mewn Cyfweliadau: Dysgu technegau i reoli’ch nerfau cyn cyfweliadau ac wynebu eich ofnau fel eich bod yn gallu meddwl yn glir ac yn ymateb yn effeithiol pan fo angen.
  • Arddangos eich hun ar eich Gorau: Dysgu sut i arddangos eich sgiliau, profiad, a’ch cymhelliant yn effeithiol, gan sicrhau eu bod yn eich gweld ar eich gorau—hyd yn oed os nad ydych wedi bod yn y farchnad waith ers tipyn.
  • Ymarfer Go Iawn, Canlyniad Go Iawn: Ymarfer rhai senarios cyfweld cyffredin, gan gynnwys cwestiynau cymhwysedd, sôn am fylchau mewn cyflogaeth, a chyfathrebu’ch anghenion.
  • Meistroli’r Cwestiynau Annisgwyl: Dysgu sut i strwythuro atebion sy’n berswadiol, yn gofiadwy ac yn berthnasol, gan arddangos yn union pam mai chi yw’r ymgeisydd delfrydol.