Mae ein rhaglen ‘Go Gwyrdd’ ar gyfer cysylltu pobl ifanc rhwng 16-30 oed sydd ag anableddau, anghenion ychwangeol neu sydd o gymunedau sy’n ethnigol leiafrifol gyda chyfleoedd gwaith yn y sector gwyrdd.
Bydd cyfranogwyr yn gallu cael mynediad at gymorth dwys drwy hyfforddwr gwaith personol, a fydd yn eu helpu i weithio tuag at nodau gwaith ac yn nodi cyfleoedd lleoliad gwaith gyda chyflogwyr lleol neu ranbarthol.
Rydym yn gyffrous o fod yn cael gweithio gyda sefydliadau partner allweddol sy’n rhannu eu hamser, adnoddau ac arbenigedd i greu llu o gyfleoedd ar draws rhanbarth Gogledd Cymru.
Mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle cyffrous i gyflogwyr gael mynediad at dalent ifanc yn yr ardal, ac i helpu i ddatblygu sgiliau a meithrin diddordeb yn yr ardal twf allweddol hon.
I ddysgu mwy am sut y gallwch gymryd rhan, cysylltwch â ni isod.
Os ydych chi’n berson ifanc ac yn dymuno elwa o’r rhaglen hon, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi! Cwblhewch y ffurflen ymholiad isod a byddwn yn cysylltu â chi.
Ariennir Priosect ‘Go Gwyrdd’ drwy’r Gronfa Asedau Segur, sy’n cael ei darparu drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.