Rhaglen Hyrwyddwyr Llesiant

Rôl allweddol i unrhyw sefydliad sydd wedi ymrwymo i adeiladu a gwreiddio arferion llesiant cadarnhaol yn y gwaith. Woman talking at work with a colleague comforting her

Mae tîm Hyrwyddo Llesiant mewnol yn rhan ganolog o strategaeth llesiant unrhyw sefydliad. Mae Hyrwyddwyr Llesiant yn darparu cymorth rheng flaen i gyd-weithwyr, gan gynnig clust i wrando a chyfeirio at gymorth arbenigol lle bo angen. Gallant hefyd chwarae rôl allweddol mewn trefnu a hyrwyddo cynlluniau a gweithgareddau llesiant, gan helpu i yrru a gwreiddio diwylliant llesiant cadarnhaol yn y gweithle.

Bydd ein rhaglen Hyrwyddwyr Llesiant sefydledig yn eich helpu i ddeall gofynion y rôl, ac archwilio a llunio’r sgiliau allweddol sydd eu hangen i’w gwireddu. Gellir cyflwyno’r cwrs hanner diwrnod ar-lein neu’n fewnol, drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Mae’n cynnwys mynediad at becyn cymorth cynhwysfawr o adnoddau.

Hyd yn hyn, rydym wedi hyfforddi bron i 400 o hyrwyddwyr llesiant o BBaChau, colegau, cartrefi gofal, elusennau a byrddau iechyd ar hyd a lled Cymru. Gwahoddir ein holl hyrwyddwyr hyfforddedig i fynychu ein cyfarfodydd rhwydwaith chwarterol i barhau i gysylltu, rhannu arfer gorau a chael mynediad at gyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus.

  • Woman in orange top smiling and looking at her laptop screen

    Hyfforddiant llesiant yn y gweithle

    Gall RCS hefyd gynnig cymorth, arweiniad a hyfforddiant arbenigol i fusnesau, gan helpu i greu diwylliant llesiant cadarnhaol a gweithle llewyrchus. Mae rhestr o Weithdai Hyfforddiant sy’n cael eu cynnig gennym i’w chael yma. Gall busnesau sydd â llai na 250 o weithwyr yng ngogledd, gorllewin neu dde-orllewin Cymru fod yn gymwys ar gyfer hyfforddiant rhad ac am ddim drwy ein Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith.

    Cliciwch isod am restr o’r Gweithdai Hyfforddi rydyn ni’n eu cynnig.

Cysylltwch â ni

Hyrwyddwyr Lles

This field is for validation purposes and should be left unchanged.
Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau 9:30am i 4:30pm a dydd Gwener 9:30am i 4:00pm.