Rhaglen Darganfod Llesiant

Defnyddio gwybodaeth o’ch sefydliad i helpu i lywio cynllun personol a fydd yn eich helpu i ddiwallu anghenion llesiant eich gweithlu. Two women sitting on sofa at work talking and smiling

Mae ein Rhaglen Darganfod Llesiant yn darparu’r man cychwyn delfrydol ar gyfer cyflogwyr sy’n ystyried rhoi dull strwythuredig, rhagweithiol gefnogi llesiant ar waith yn y gweithle.

Gan ddefnyddio offer arolwg rhyngweithiol ac adborth staff, bydd ein tîm arbenigol yn gweithio gyda chi i nodi canolbwyntiau a risgiau yn y sefydliad ac yn amlygu meysydd blaenoriaeth ar gyfer camau gweithredu a datblygiad. Bydd deall anghenion eich sefydliad yn eich galluogi i ddatblygu strategaeth llesiant effeithiol ac wedi’i thargedu.

Mae’r Rhaglen Darganfod Llesiant yn addas ar gyfer sefydliadau o unrhyw faint a sector a gellir ei chynnal drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

Gall busnesau sydd â llai na 250 o weithwyr yng ngogledd, gorllewin neu dde-orllewin Cymru fod yn gymwys ar gyfer cymorth rhad ac am ddim drwy ein Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith.

Cysylltwch drwy’r ffurflen isod am ragor o wybodaeth neu i drafod eich anghenion.

Cysylltwch â ni

Hyrwyddwyr Lles

This field is for validation purposes and should be left unchanged.
Oriau agor yw Dydd Llun – Iau 9.30am – tan 4.30pm, Dydd Gwener 9.30am tan 4pm.