Ymwybyddiaeth Menopos yn y Gweithle


​Mae’r menopos yn effeithio ar bawb yn y gweithle, nid dim ond y rhai sy’n ei brofi’n uniongyrchol. Mae’r gweithdy hwn wedi’i gynllunio i’ch darparu gyda’r wybodaeth a’r adnoddau i gefnogi cydweithwyr sy’n mynd drwy’r menopos a chreu gweithle mwy cynhwysol a chyfrannu at ddod â’r stigma i ben. Mae’r sesiwn hon yr un mor berthnasol i ddynion sydd eisiau bod yn gynghreiriaid gwybodus a chreu gweithle cefnogol i bawb.

Uchafbwyntiau’r sesiwn:

  • Diffinio a Deall y Menopos: Dysgwch beth yw’r menopos a’i oblygiadau.
  • Menopos yn Hanesyddol: Archwiliwch y cyd-destun hanesyddol a datblygiad dealltwriaeth o’r menopos.
  • Symptomau Cyffredin Menopos: Adnabod a deall symptomau cyffredin a brofir yn ystod y menopos.
  • Strategaethau i Ymdopi a Thriniaethau: Darganfyddwch strategaethau effeithiol a thriniaethau er mwyn rheoli symptomau menopos.
  • Rhoi diwedd ar y Stigma: Dysgwch sut i fynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig gyda’r menopos a sut i’w leihau.
  • Menopos a Gwaith: Deall effaith menopos yn y gweithle, gan gynnwys cyfrifoldebau’r cyflogwr, y ddeddf cydraddoldeb, agweddau, addasiadau rhesymol, polisi menopos ac arferion gorau.
  • Adnoddau Ychwanegol a Chyfeirio: Cael mynediad at adnoddau ac arweiniad pellach ar gyfer cefnogaeth barhaus.

Ymholiad Gweithdy Hyfforddi

Ymholiad Gweithdy Hyfforddi

This field is for validation purposes and should be left unchanged.
Oriau agor yw Dydd Llun – Iau 9.30am – tan 4.30pm, Dydd Gwener 9.30am tan 4pm.