Rheoli Gorbryder a Meithrin Hyder


Yn cyflwyno ystod o adnoddau a strategaethau seiliedig ar dystiolaeth i’ch rhoi mewn rheolaeth o’ch emosiynau a’ch ymatebion, meithrin mecanweithiau ymdopi cryfach a thuag at ddyfodol mwy hamddenol a hyderus.

Uchafbwyntiau’r sesiwn:

  • Deall Gorbryder: Dysgwch beth yw gorbryder, ei achosion cyffredin a’i effaith ar eich ymennydd a’ch corff.
  • Rheoli Gorbryder ynoch Chi: Dewch o hyd i dechnegau ymarferol y gellir eu rhoi ar waith i reoli symptomau.
  • Deall Hyder: Archwiliwch sylfeini hunan hyder a nodwch y meddyliau a’r ymddygiadau a allai fod yn eich dal yn ôl.
  • Meithrin Hyder ynoch Chi: Datblygwch strategaethau personol i feithrin hunansicrwydd parhaus, yn cynnwys gosod amcanion, dathlu llwyddiannau a herio llais mewnol negyddol.