Cwrs Gloywi Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i Ieuenctid


Mae’r cwrs Gloywi MHFA Ieuenctid wedi’i gynllunio ar gyfer unrhyw un sydd wedi cwblhau’r cwrs MHFA Ieuenctid Cymru llawn o fewn y tair blynedd diwethaf. Dyma gyfle i ddiweddaru eich gwybodaeth, ymarfer eich sgiliau, ac ymestyn eich ardystiad am dair blynedd arall gyda’n cwrs e-ddysgu a’n gweminar 3-awr dan arweiniad hyfforddwr. Mae’r cwrs wedi’i seilio ar ganllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a ddatblygwyd drwy gonsensws arbenigol, gan gynnwys lleisiau’r rheiny sydd â phrofiad o anawsterau iechyd meddwl a gweithwyr iechyd meddwl ieuenctid.

Byddwch yn Ennill:

  • Dealltwriaeth wedi’i gloywi o egwyddorion MHFA Ieuenctid allweddol
  • Mewnwelediadau i’r ymchwil ddiweddaraf ym maes iechyd meddwl
  • Y 3 gweithred allweddol i gefnogi rhywun sy’n profi meddyliau hunanladdol
  • Ymarfer ymdrin â sefyllfaoedd cymorth cyntaf iechyd meddwl cymhleth
  • Cyfleoedd i ail-ymweld rhoi’ch sgiliau MHFA Ieuenctid ar waith mewn amgylchedd diogel a chefnogol

Pwysig:

Dim ond unwaith y gall cyfranogwyr fynychu cwrs gloywi. I adnewyddu’ch ardystiad eto yn y dyfodol, bydd angen cwblhau cwrs MHFA Ieuenctid llawn.

 

Ymholiad Gweithdy Hyfforddi

Ymholiad Gweithdy Hyfforddi

This field is for validation purposes and should be left unchanged.
Oriau agor yw Dydd Llun – Iau 9.30am – tan 4.30pm, Dydd Gwener 9.30am tan 4pm.