Gall polisi llesiant effeithiol fod yn yrrwr allweddol wrth helpu eich sefydliad greu a chynnal amgylchedd gwaith cefnogol sy’n galluogi staff berfformio ar eu gorau. Bydd y gweithdy hwn yn darparu gwybodaeth a dulliau hanfodol i chi i’ch helpu i ddatblygu polisi effeithiol er mwyn hyrwyddo diwylliant llesiant cadarnhaol yn eich gweithle.
Uchafbwyntiau’r Sesiwn:
- Gwybod Beth i’w Gynnwys Mewn Polisi Lles yn y Gwaith: Deall elfennau hanfodol polisi lles cynhwysfawr.
- Rhannu Templedi Polisi Lles a Dolenni i Adnoddau a Chymorth Pellach: Cael mynediad at dempledi gwerthfawr ac adnoddau er mwyn arwain eich proses o greu polisi.
- Diweddarwch eich Polisïau Cyfredol: Dysgu sut i fireinio a gwella eich polisïau presennol er mwyn cefnogi lles yn y gweithle mewn ffordd well.
- Defnyddio Adnoddau i Adolygu eich Polisïau Presennol: Enillwch sgiliau ymarferol er mwyn asesu a gwella eich polisïau presennol.
- Rhannu Syniadau gyda Rheolwyr ac Arweinwyr Tîm Eraill: Cydweithredu a rhannu syniadau ynghylch gwneud polisïau’n effeithiol ac yn rhai sy’n cael effaith.