Mae gennym dros ddegawd o brofiad yn darparu cymorth i weithwyr i leihau ac atal salwch yn y gwaith. Mae ein cynnig cymorth yn cynnwys:
- Therapïau seicolegol i fynd i’r afael â chyflyrau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol megis straen, gorbryder neu iselder.
- Cymorth a thriniaeth ar gyfer cyflyrau corfforol ysgafn i gymedrol fel poen cefn, anafiadau straen ailadroddus neu gyflyrau eraill sy’n cyfyngu ar allu i weithio.
- Cefnogaeth gyfannol gyda materion eraill sy’n effeithio ar lesiant, fel cyllid a dyled
Rydym yn cyflwyno ein cefnogaeth arbenigol mewn partneriaeth â rhwydwaith ddibynadwy o ddarparwyr proffesiynol arbenigol a chymwys, gan gynnwys cwnselwyr, therapyddion gwybyddol ymddygiadol, seicolegwyr clinigol, ffisiotherapyddion ac osteopathiaid.
Mae ein cleientiaid yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor.
Yng Ngogledd, Gorllewin a De-orllewin Cymru, gall sefydliadau sydd â hyd at 250 o staff gael mynediad at gymorth a therapïau am ddim drwy ein Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Cysylltwch drwy’r ffurflen isod am ragor o wybodaeth neu i drafod eich anghenion.