Llogi un o’n hystafelloedd

Mae ein swyddfa yn y Rhyl yn darparu ystafelloedd i’w llogi, yn ogystal â lle gwaith i’n timau.

Llogi ein gofod

Mae gan ein swyddfa yn y Rhyl sawl lle cyfarfod cyfforddus a chwaethus y gallwch eu llogi fesul awr neu fesul dydd.

Hub main space with people

Ystafelloedd bach

Ystafelloedd bach sy’n cynnig man tawel a chyfrinachol ar gyfer cyfarfodydd un i un neu drefniadau desg dros dro.

Ystafelloedd mawr

Ystafell fawr sy’n eistedd hyd at ddeuddeg ar gyfer cyfarfodydd neu sesiynau hyfforddiant.

Gofod cynllun agored ar y llawr gwaelod gyda chegin ar gyfer cyfarfodydd mwy neu gyflwyniadau.

Mae gennym unedau swyddfa ar gael yw rhentu am gyfnodau hirach, gan gynnwys uned hunangynhwysol gyda chegin a thoiled ar wahân. Cysylltwch â ni i archebu neu i drafod eich anghenion.