Ein Pobl

Ein pobl sy’n ganolog i’n llwyddiant. Rydym yn cael ein llywodraethu a’n cefnogi gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr arbenigol, gyda gweithgareddau wedi’u trefnu a’u darparu gan ein tîm o staff medrus, profiadol ac ymroddedig ledled Cymru.

Aelodau’r Bwrdd

  • Sioned Williams

    Sioned Williams

    Cadeirydd

    Mae Sioned wedi gweithio mewn ystod o swyddi cyflogadwyedd, cynhwysiant digidol a datblygu yn y trydydd sector. Ar hyn o bryd, mae’n Rheolwr Grantiau Cymorth Tai yng Nghyngor Conwy, ac yn goruchwylio datblygiad gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar i helpu pobl gael cartref sefydlog, a’i gynnal. Cafodd Sioned ei hethol yn Gadeirydd y Bwrdd yn 2025.

  • Steve Ray

    Steve Ray

    Is-gadeirydd

    Mae Steve wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi yn y sector cyfiawnder cymunedol ers 1974, o ymarferydd i’r Gwasanaeth Prawf yng Nghymru a Lloegr hyd at Ddirprwy Brif Swyddog y Gwasanaeth Prawf yng ngogledd Cymru cyn iddo ymddeol yn 2011. Roedd Steve yn un o sylfaenwyr Bwrdd RCS yn 2008.

  • John Parkinson

    Yr Athro John Parkinson

    Yr Athro John A Parkinson yw Deon Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Thechnoleg ym Mhrifysgol Arden ar hyn o bryd. Cyn hynny, bu’n Bennaeth Ysgol ym Mhrifysgol Bangor (2013-2025) ac yn Ddeon ar gyfer Coleg y Gwyddorau Dynol (2020-2025). Mae ganddo PhD o Brifysgol Caergrawnt ac mae’n gwnselydd cymwys. Mae ei arbenigedd ymchwil mewn seicoleg ymddygiadol, gyda ffocws ar seicoleg gadarnhaol a hyrwyddo gweithredu optimaidd.

  • Gareth Matthews

    Mae gan Gareth Matthews dros 50 mlynedd o brofiad yn y sector cyflogadwyedd a sgiliau. Mae’n Gyfarwyddwr Itec Training Solutions Ltd, busnes sy’n llwyr eiddo i’r gweithwyr sy’n darparu prentisiaethau a rhaglenni cyflogadwyedd ieuenctid. Mae swyddi blaenorol Gareth yn cynnwys Cyfarwyddwr Gwasanaethau Llesiant yn Serco a Chyfarwyddwr Gweithredol gyda Working Links, yn ogystal â swyddi uwch yn y Ganolfan Byd Gwaith lle bu’n gweithio am 27 mlynedd.

  • Edith Frodsham

    Edith Frodsham

    Mae gan Edith dros 40 mlynedd o brofiad rheoli, a hynny mewn uwch swyddi yn y Ganolfan Byd Gwaith gan gynnwys recriwtio staff, partneriaethau a rheolaeth ariannol. Mae Edith yn fentor a swyddog hyfforddi cymwys, ac ers ei hymddeoliad swyddogol mae’n parhau i weithio fel swyddog ariannol ar gyfer cwmni cyfreithiol bach.

  • Julia Cain

    Julia Cain

    Roedd Julia yn Rheolwr Partneriaethau RCS tan iddi ymddeol yn 2021. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio mewn llesiant yn y gwaith, a hithau wedi bod yn gweithio i Working Links ac yn ymddiriedolwr y Links Foundation. Mae Julia wedi cyfrannu at ddatblygu llawer o ddatrysiadau pwrpasol, arloesol ar gyfer diweithdra ac anghyflogaeth.

  • Ruth Collinge

    Ruth Collinge

    Mae Ruth yn aelod allweddol o’r Uwch Dîm Arwain yn Hyfforddiant COPA. Mae Ruth yn addysgydd ymrwymedig ac yn Bennaeth Cytundebau profiadol sydd â phum mlynedd ar hugain o brofiad yn y sector dysgu yn Seiliedig ar Waith, ynghyd â gwybodaeth eang am y Rhaglen O Fudd-dâl i Waith.

Uwch Dîm Arwain

  • Ali Thomas

    Ali Thomas

    Prif Swyddog Gweithredol

    Ei rôl yw arwain datblygiad strategol y cwmni a gwneud yn siŵr bod ein gwaith yn cael effaith gadarnhaol a pharhaol ar bobl a chymunedau.

  • Joanne Bartlett-Jones

    Joanne Bartlett-Jones, MCIPD

    Pennaeth Adnoddau

    Ei rôl yw sicrhau bod arian yn cael ei reoli’n gadarn a meithrin diwylliant o gynhwysiant a llesiant ymhlith y gweithlu.

  • Kerry Jones

    Kerry Jones

    Pennaeth Gweithrediadau

    Ei rôl yw goruchwylio proses gynllunio a pherfformiad ein rhaglenni a’n gwasanaethau.

  • Vanessa Trimble

    Vanessa Trimble

    Rheolwr Ymgysylltiad Busnes

    Ei rôl yw arwain ymgysylltiad busnes a helpu cyflogwyr i lunio a gweithredu strategaethau llesiant yn y gweithle sy’n greadigol ac wedi’u teilwra

  • Tîm Cyfathrebu

    Mae ein tîm ymgysylltu a chyfathrebu yn allweddol i godi ymwybyddiaeth o’n gwasanaethau a’n gweithgareddau, ac i rannu a chryfhau’r effaith a gawn.

    • Rheolwr

      Sian Parry
    • Aelodau’r tîm

      Emma-Jane Roberts
      Hope Tran
  • Tîm Cefnogi Cleientiaid

    Mae ein cwsmeriaid wrth wraidd popeth a wnawn: mae ein tîm o gydlynwyr cefnogi cleientiaid ac Arbenigwyr Cyflogaeth yn rhoi cymorth empathig, personol bob cam o’r ffordd.

    • Rheolwr Gweithrediadau

      Dawn Jones
    • Cydlynydd Prosiect Gyrfaoedd Gwyrdd

      Clare Brass
    • Rheolwyr Ardal

      Rachel Davies
      Jade Neal
    • Aelodau’r tîm

      Peter Brannan
      Keely Golden
      Lucy Hirst
      Debbie Holmes
      Freya Hughes
      Sarah Jones
      Jessamy Lambert-Drewery
      Naomi Shilling
      Helen Williams
  • Tîm Gweinyddol

    Mae ein tîm yn rhoi cymorth gweinyddol effeithlon a syml ar draws pob maes gwasanaeth, o ymdrin ag ymholiadau a phrosesu atgyfeiriadau i gwblhau dogfennau prosiect, gan roi gwasanaeth cwsmer wrth wraidd ein gweithrediadau.

    • Rheolwr Gweinyddol

      Jan Jones
    • Aelodau’r tîm

      Charlotte Chitty
      Mayuresh Cholkar
      Gemma Clifton
      Jacqueline Davies
      Kim Prime
      Sheena Roberts
      Gemma Smith-Williams
      Cerri Steel
      Nicola Williams
      Nicola Wynne
  • Tîm Therapiwtig

    Rydym yn darparu cymorth therapiwtig cyfannol, sy’n canolbwyntio ar bobl drwy dîm mewnol cynyddol a rhwydwaith mawr o aelodau cyswllt cymwys, proffesiynol ledled Cymru.

    • Rheolwr Gwasanaethau Therapi

      Eve Pugh
    • Aelodau’r tîm

      Laura Saxon
  • Tîm Hyfforddiant

    Mae ein tîm hyfforddiant yn darparu portffolio hyfforddiant newydd a dynamig, gan greu ac addasu cynnwys rhyngweithiol i uniaethu ag unrhyw gynulleidfa.

    • Rheolwr

      Claire Lynch
    • Aelodau’r tîm

      Anne Greenall
      Sara Timothy
  • Tîm Adnoddau

    Mae gan y tîm hwn y dasg hynod gyfrifol o ofalu am ein pobl, ein harian a’n safleoedd.

    • Aelodau’r tîm

      Gareth Jones
      Lesley Taylor-Williamson
      Rebecca Tillotson