Cwnsela Cyflogaeth

Mae ein cymorth cwnsela yn helpu rhai sy’n chwilio am waith i ddelio â rhwystrau iechyd meddwl rhag cyflogaeth. Gall therapïau siarad helpu pobl i ddatblygu strategaethau ymdopi, gwella hunan-barch a datblygu cadernid, fel eu bod mewn gwell sefyllfa i allu ymateb i gymorth o ran cyflogadwyedd, gan eu symud yn nes at y farchnad lafur.

Mae cyflyrau iechyd ein cleientiaid wedi cynnwys gorbryder, iselder, PTSD, gorbryder cymdeithasol, a straen. Nid oes angen diagnosis ffurfiol er mwyn derbyn ein cymorth cwnsela. Yn dilyn asesiad cychwynnol gyda’n Cydlynydd Gwasanaethau Cwnsela, bydd cleientiaid fel arfer yn cael rhwng chwech a deg sesiwn gymorth naill ai wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein.

Mae ein tîm cwnsela yn cynnwys cwnselwyr gwirfoddol a myfyrwyr MSc Cwnsela drwy ein partneriaeth hirsefydlog gyda Phrifysgol Bangor. Drwy ddefnyddio myfyrwyr a gwirfoddolwyr, gallwn gynnig cwnsela cyflogaeth am bris fforddiadwy, gan gefnogi cwnselwyr newydd i ddatblygu eu gyrfa ar yr un pryd.

Bydd ein cleientiaid yn rhoi adborth cadarnhaol yn gyson ynghylch y ffordd mae ein cymorth cwnsela wedi eu helpu i symud yn nes at y farchnad lafur.

  • Dywedodd 84% fod eu gallu i weithio wedi gwella o ganlyniad i’r ymyriad
  • Dywedodd 60% o’n cleientiaid eu bod yn teimlo’n barod am gyflogaeth ar ôl cael cymorth.
  • Dywedodd 84% fod eu hiechyd wedi gwella o ganlyniad i’r ymyriad.

Rhoddodd ein cleientiaid sgôr cyffredinol o 4.48 allan o 5 i’w cymorth therapi.

“Roedd yn help mawr i mi fynd yn ôl i weithio ar ôl blynyddoedd o salwch meddwl.”

“Dwi’n ôl ar y trywydd iawn ac yn gallu ymdopi.”

“Wedi ei fwynhau’n arw. Wedi dysgu strategaethau ymdopi da.”