Ar anterth yr argyfwng ariannol, sicrhaodd RCS dros £2 filiwn trwy raglen ‘Cronfa Swyddi’r Dyfodol’ yr Adran Gwaith a Phensiynau, gyda’r nod o fynd i’r afael â diweithdra ieuenctid. Gan weithredu fel asiant rheoli ar gyfer y cynllun ar draws Conwy a Sir Ddinbych, fe wnaethom hwyluso cyfleoedd i dros ddeg ar hugain o gyflogwyr lleol i gynnig contractau gwaith chwe mis i ymgeiswyr di-waith. Gwnaethom redeg ffeiriau swyddi misol i baru ymgeiswyr gyda chyfleoedd gwaith addas, a llwyddom i lenwi’r 322 o leoedd oedd ar gael erbyn diwedd y rhaglen yn 2011. Roeddem yn arbennig o falch bod bron i 60{b8f64ec72e9c4b23b36a552fc1dcb6c38490341e3b9f5e2b51263e9f11d8fce7} o’r cyfranogwyr wedi cael swydd gan eu cyflogwyr ar ddiwedd eu swydd chwe mis. Daeth llywodraeth y DU â’r cynllun i ben, tra yng Nghymru helpodd llwyddiant profiad Swyddi’r Dyfodol RCS i ysbrydoli sefydlu Twf Swyddi Cymru.