Seicoleg Gadarnhaol

Mae’n bleser gan RCS gael gweithio gydag Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor ar ei rhaglen ymchwil seicoleg gadarnhaol. Mae seicoleg gadarnhaol yn faes datblygol sy’n edrych ar wella hydwythedd a hybu ansawdd byw drwy ddatblygu ar gryfderau personol. Mae RCS yn noddi myfyrwraig PhD, Kate Isherwood, i fynd ymlaen i wneud ymchwil yn y maes hwn. Caiff ei hariannu yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy raglen 2 Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth.
Ar hyn bryd mae Kate Isherwood yn recriwtio cyflogwyr a gweithwyr i gymryd rhan yn ei hastudiaeth i effaith seicoleg gadarnhaol ar gymhelliant, hydwythedd a lles yn y gweithle.
Bydd y gwaith yn cynnwys sesiwn grŵp am awr gyda sesiwn arall wythnos wedi hynny. Bydd angen i’r rhai sy’n cymryd rhan gadw dyddiadur byr am yr wythnos hefyd.

  • Cymryd rhan am ddim.
  • Gall sesiynau gael eu cynnal ym man gwaith y cyflogwr os oes yna chwech neu fwy o weithwyr yn cymryd rhan.
  • Gall gweithwyr unigol fynychu sesiynau grŵp ym Mangor neu Rhyl drwy drefniant ymlaen llaw
  • Bydd y rhaglen ymchwil yn cael ei gynnal o fis Ebrill i Awst 2017

Cysylltwch gyda hello@rcs-wales.co.uk am fwy o wybodaeth neu os ydych eisiau cymryd rhan yn y rhaglen.

Mae RCS hefyd yn gweithio gydag Ysgol Seicoleg Bangor ar raglen newydd arloesol sy’n defnyddio technegau seicoleg gadarnhaol i wella cyflogadwyedd a lles.