Cymorth i Gyflogwyr

Gall agwedd ragweithiol tuag at lesiant y gweithlu dalu ar ei chanfed i’ch busnes. Nid menter lesiant unigol sydd dan sylw – mae’n ymwneud â newid y ffordd mae busnes yn digwydd.

Rydym yn darparu cymorth a hyfforddiant am ddim i’ch helpu i greu gweithle hapusach ac iachach, beth bynnag fo’ch man cychwyn.

  • Lleihau absenoldebau a gwella cynhyrchiant
  • Darganfod beth sy’n ysgogi ac yn ennyn diddordeb eich gweithwyr
  • Creu amgylchedd gwaith sy’n dda i’ch gweithwyr ac yn dda i’r busnes.

Rydym hefyd yn cynnig ystod o wasanaethau cymorth am ddim i’ch tîm staff – gweithdai llesiant sy’n ennyn diddordeb, yn ysgogi ac yn ysbrydoli, yn ogystal â chymorth a therapi ar sail unigol i helpu rhai sydd wedi bod yn absennol i ddychwelyd i’r gwaith.

Ariennir ein Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Ein nod yw lleihau absenoldebau a gwella llesiant mewn busnesau yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Gwynedd ac Ynys Môn.

 

Cyrsiau Hyfforddiant i Gyflogwyr

Rydym yn cynnig ystod o weithdai hyfforddiant hanner diwrnod addysgiadol, ysbrydoledig a diddorol i gyflogwyr sy’n ymdrin ag ystod o bynciau lles yn y gweithle

Rydym yn cynnig ystod o weithdai hyfforddiant hanner diwrnod addysgiadol, ysgogol a diddorol sy’n darparu adnoddau, cyngor a thechnegau i wneud eich gweithle yn lle hapusach a mwy deniadol i weithio ynddo.  

Byddwn yn eich helpu i:

  • Greu amgylchedd gwaith cadarnhaol lle gall eich gweithwyr ffynnu
  • Lleihau’r amser y mae eich gweithwyr yn absennol
  • Darganfod beth sy’n ysgogi ac yn ennyn diddordeb eich gweithwyr

Yn addas i arweinwyr, uwch reolwyr a hyrwyddwyr lles.

{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}259{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}

Ymyriadau Llesiant ar gyfer y gweithle

Mae absenoldeb salwch yn achosi miliynau o bunnoedd o golledion i fusnesau yng Nghymru oherwydd diwrnodau gwaith a gollwyd. Mae’n bosib y byddai gwella llesiant eich staff yn cyfrannu tuag at leihau absenoldeb salwch a gwella cynhyrchiant.

DARLLEN MWY

{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}175{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}

Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch

Mae absenoldeb salwch yn costio miliynau o bunnoedd i fusnesau yng Nghymru mewn dyddiau gwaith a gollwyd.

DARLLEN MWY

“Fe wnes I fwynhau’r gweithdy’n arw. Roedd yn gyfle I feddwl am les yn y gweithle.”

“Hyfforddwyr gwych – roedd yr wybodaeth o safon ragorol.”

“Fe gawson ni lwyth o wybodaeth – sesiwn wych.”

 

“Gweithdy i wneud ichi feddwl.”

“Cwrs diddorol – roedd y cyflwynwyr yn barod iawn I helpu wrth drafod materion penodol.”

“Defnyddiol a llawn gwybodaeth – roedd yn bendant yn werth yr amser allan o’r gweithle.”

Gweithdai lles i staff

Gall busnesau hefyd gofrestru ar gyfer ein rhaglen o weithdai lles i staff.

Mae ein cyfres o sesiynau byr, hwyliog a hynod ryngweithiol yn darparu gwybodaeth, arfau a thechnegau i helpu i ennyn diddordeb, cymell ac ysbrydoli eich tîm. Gall gweithwyr fynychu un neu fwy o sesiynau, sy’n cael eu darparu ar raglen dreigl yn y Rhyl a Bangor. Gweler y calendr ar gyfer dyddadau cyrsiau arfaethedig 

Fel arall, gallwch siarad â ni ynglŷn â chynnal y sesiynau hyn yn y gweithle.

Yn addas i bob gweithiwr, ar gyfer grwpiau o hyd at 20 o bobl.

{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}259{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}

Gwydnwch

Mae pobl sy’n wydn neu gyda’r gallu i ‘godi’n ôl ar eu traed’ mewn ffordd gadarnhaol a chreadigol ar ôl wynebu problemau, yn dangos lefelau is o iselder ac yn fwy tebygol o allu cymell eu hunain. Byddwn yn archwilio mwy o ffyrdd y gallwn ddatblygu ac annog y nodwedd allweddol hon.

{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}176{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}

Meddyliau negyddol a sut i'w hosgoi

Mae pob un ohonom yn cael meddyliau negyddol ar ryw adeg ond gallant fod yn fwy cyffredin ac eithafol pan ydym yn teimlo dan bwysau, yn bryderus neu’n isel.

{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}103{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}

Rheoli Straen

Gall rhywfaint o straen arwain atom yn perfformio ar ein gorau, ond gall hefyd fynd yn drech na ni, ac mae’n un o’r prif achosion o absenoldeb o’r gwaith. Byddwn yn darganfod mwy am yr hyn sy’n achosi straen a’i effeithiau, a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer cadw rheolaeth arno.

{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}101{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}

Delio â Gorbryder

Byddwn yn edrych ar symptomau cyffredin gorbryder, beth y maent yn eu golygu, a beth yw rhai o’r ffyrdd y gallwn eu dysgu i reoli effeithiau gorbryder.

{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}222{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70}

Cysgu'n Dda

Cewch ddarganfod pam fod cwsg mor bwysig, a pha newidiadau y gallwch eu gwneud i’ch trefn arferol, ymddygiad ac amgylchedd i wella ansawdd eich cwsg.

“Am sesiwn wych”

“Llawn gwybodaeth ac addysgol”

“Sesiwn gadarnhaol a difyr”

Eich helpu chi i leihau absenoldeb

Rydym yn cynnig cymorth ar sail unigol a mynediad cyflym at therapi i helpu pobl gyflogedig neu hunangyflogedig i ddychwelyd i’r gwaith ar ôl bod yn absennol oherwydd salwch. Mae Cymorth yn y Gwaith 100{81e32ede2764c8ff994f58d3500f814e3f57c11faac8bd09b017a1778b748a70} yn gyfrinachol ac am ddim – gall pobl gyfeirio eu hunain at y gwasanaeth drwy ffonio ein tîm.

“Llwyddais i fynd yn ôl i’r gwaith yn syth, bron. Roedd pawb oedd yn ymwneud â’r gwasanaeth i weld yn ‘malio’ go iawn. Mae’n haeddu pob canmoliaeth.”

“Yn sicr, fyddwn i ddim wedi gallu aros yn y gwaith na datrys y problemau mor gyflym heb y cymorth a gefais.”

Ffoniwch ni i gael gwybod mwy ar 01745 336442 neu e-bostiwch hello@rcs-wales.co.uk

Ariennir Cymorth yn y Gwaith yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae meini prawf cymhwystra yn berthnasol.