Heibio i’r Rhwystrau

Mae ‘Heibio i’r Rhwystrau’ yn rhaglen hyfforddi unigryw a’i nod ydy helpu gweithwyr rheng-flaen o’r sectorau iechyd, tai a chymunedol i ddatblygu eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth ynghylch materion cyflogadwyedd.
Nod y cwrs ydy rhoi’r hyder i weithwyr rheng-flaen i allu trafod cyflogadwyedd gyda’u cleientiaid/cwsmeriaid a’u cyfeirio’n effeithiol at gefnogaeth arbenigol briodol.
Daw ein hyfforddwyr profiadol a bywiog â’r testun yn fyw mewn sesiwn ymarferol, hwyliog sy’n hynod rhyngweithiol, gan helpu’r mynychwyr i:

  • archwilio’r materion cymhleth a’r rhwystrau sy’n wynebu pobl wrth iddynt geisio cael gwaith neu ddal gafael ynddo
  • dod i ddeall sut i gefnogi cleientiaid o ran mynd i’r afael â’r rhwystrau rhag cyflogaeth
  • dod i wybod am y gefnogaeth ymarferol sydd ar gael i helpu cleientiaid i symud yn nes at y farchnad lafur
  • cael gorolwg sylfaenol ar y newidiadau i fudd-daliadau, ac ar yr effaith debygol dechrau gwaith cyflogedig neu hyfforddiant ar yr hawl i fudd-daliadau

Gellir darparu’r hyfforddiant hwn trwy sesiwn hanner diwrnod neu sesiwn undydd.

Beth mae mynychwyr wedi ei ddweud…

Gwnes wirioneddol fwynhau’r gweithdy. Rwyf wedi cynghori cydweithwyr i fynychu os cynhelir y gweithdy eto yn y dyfodol.

I fi yn bersonol, roedd y diwrnod yn un gwerth chweil, ac os bydd rhagor o sesiynau yn y dyfodol, rwyf wedi argymell y dylai ein staff cyflogedig i gyd fynychu gan fy mod i’n teimlo y byddent i gyd yn elwa yn eu rolau gwahanol. Diolch eto … am ddiwrnod hwyliog ac addysgiadol; dyma’r gweithdy gorau i mi fod ynddo ers cryn amser.

Mae’r cyfeirlyfr yn ddefnyddiol dros ben. Rhwydweithio gydag asiantaethau eraill a’r cyflwynwyr yn wybodus iawn. Gweithdy da iawn – wedi ei gynllunio, ei gyflwyno a’i amseru’n dda ac yn rhoi llawer o wybodaeth.

Roeddwn i’n meddwl bod yr hyfforddwyr yn barod iawn i helpu, roedd yn hawdd siarad â nhw ac roeddent yn wybodus iawn. Difyr ac addysgiadol dros ben. Rwy’n teimlo’n fwy hyderus ynglŷn â’r testun nawr.

Cwrs da iawn a hwyliog. Roedd yr ymarferion i gyd yn arbennig o dda.

Mi wnes i fwynhau’r diwrnod yn arw a chael llawer o wybodaeth a syniadau yr ydw i wedi eu rhannu â chydweithwyr. Rydych yn haeddu clod am ddigwyddiad oedd yn cyflwyno cymaint o wybodaeth.