Rhwng 2011-2015, mae Strategaeth Dinas y Rhyl wedi cyflwyno nifer o raglenni Marchnad Lafur Drosiannol, sydd wedi’u cyllido drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Gan weithio yn agos â busnesau a mentrau cymdeithasol bach a chanolig lleol, mae ein rhaglenni wedi creu ystod amrywiol ac ysbrydoledig o gyfleoedd cyflogaeth â chymorth i unigolion sy’n wynebu rhwystrau penodol i gyflogaeth, gan gynnwys pobl dros 50 oed, gyda chyflyrau iechyd sy’n cyfyngu gwaith, neu bobl sydd â chefndir o droseddu. Mae ein cyfleoedd gwaith wedi galluogi cyfranogwyr i ddatblygu eu sgiliau mewn amgylchedd gwaith go iawn. Hefyd maent yn cael eu traed dano yn y farchnad lafur. Mae dros 50% o’r cyfranogwyr wedi symud ymlaen i swyddi parhaol ar ddiwedd eu cysylltiad â’r rhaglen.

[wds id=”3″]