Mae RCS yn falch o fod wedi derbyn Marc Ansawdd PQASSO ar Lefel 2 yn ddiweddar yn dilyn proses hunanasesu a dilysu allanol dros gyfnod o flwyddyn. Mae PQASSO yn farc ansawdd sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol, sy’n berthnasol i waith elusennau a sefydliadau eraill yn y trydydd sector – mae cydnabyddiad PQASSO yn rhoi sicrhad bod y sefydliad yn addas i’r diben ym mhob maes sy’n hanfodol ar gyfer rheolaeth a llywodraethiant effeithiol.