HYFFORDDIANT GYRFAOL
Gogledd a Gorllewin Cymru

A ydych chi’n symud i’r cyfeiriad cywir?

Mae ein rhaglen Hyfforddiant Gyrfaol yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i’ch helpu i ddatblygu a chyrraedd eich nodau gwaith.

Mae’r rhaglen yn cynnig pedair sesiwn hyfforddi un-i-un ar-lein gyda hyfforddwr cymwys, wedi’u cyflwyno dros gyfnod o 12 wythnos. Byddwch hefyd yn cael mynediad at offer hyfforddiant ar-lein ychwanegol.

Mae’r rhaglen yn rhan o’n Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith, sy’n rhad ac am ddim i unigolion cyflogedig a hunangyflogedig sy’n bwy neu’n gweithio yn Ynys Môn, Sir Gâr, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych neu Wynedd.

Ffoniwch 01745 336442 heddiw i gyfeirio eich hun at y gwasanaeth.

Cwblhewch ffurflen e-atgyfeirio yma

“Roedd yr hyfforddiant yn wych. Mae wir wedi fy helpu i weld yr holl bethau cadarnhaol rwyf wedi’u cyflawni yn fy mywyd gwaith, ac wedi fy helpu i sylweddoli fy mod â’r gallu i ymgymryd â rôl uwch. Pan welais bopeth yn ddu a gwyn, sylweddolais fy mod wedi cyflawni cryn dipyn.”

“I ddechrau, nid oeddwn yn meddwl y buaswn yn elwa o’r rhaglen, ond newidiais fy meddwl ar ôl y sgwrs gyntaf. Roedd yr holl gyngor a’r adnoddau ar gael wedi cael effaith sylweddol ar sut oeddwn i’n teimlo. Roeddwn wedi colli fy hyder yn llwyr. Mae’r Rhaglen Hyfforddiant wedi llwyddo i ail-fagu fy hyder, a gallaf nawr weld pethau’n wahanol. Rwyf bellach yn ystyried yr hyn rwyf ei eisiau o swydd.”

A ydych chi:

  • Eisiau help wrth lywio eich nodau gyrfaol a gweithio tuag atynt?
  • Eisiau cynyddu eich oriau neu ddod o hyd i rôl fwy parhaol?
  • Awydd ymgymryd â rôl sydd â mwy o gyfrifoldebau neu sy’n cynnig mwy o her?
  • Eisiau help i fynd i’r afael â phethau a all fod yn eich rhwystro, fel heriau iechyd, budd-daliadau neu gyllid?

Neu a ydych chi eisiau rhoi hwb i’ch hyder er mwyn eich helpu i gymryd y cam nesaf?

Ffoniwch heddiw i weld sut all ein rhaglen hyfforddiant gyrfaol eich helpu chi i ddatblygu.