Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith De-ddwyrain Cymru

Cadw pobl yn iach yn y gwaith

Gall straen neu orbryder ein gwneud ni’n llai parod i ddelio â phwysau a gofynion y gweithle, effeithio ar ein perthnasau â chydweithwyr ac effeithio ar ein gallu i wneud penderfyniadau. Mae’r pandemig wedi ein rhoi ni dan straen ychwanegol, ac wedi achosi neu waethygu cyflyrau iechyd meddwl presennol. Gall bod yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch fod yn fwrn, gyda phryderon ariannol yn aml yn arwain at broblemau iechyd.

Mae ein Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn cynnig therapïau siarad a chymorth cyfrinachol cyflym am ddim i’ch helpu chi ddod yn ôl ar eich traed. Gall ein cymorth proffesiynol un-i-un eich helpu chi i reoli straen, lleihau gorbryder a meithrin gwytnwch.

Ariennir Cymorth yn y Gwaith De-ddwyrain Cymru gan gronfa Cymorth Covid-19 Llywodraeth Cymru, ac mae’n ceisio cefnogi pobl y mae’r pandemig wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl a’u llesiant. Cynigir y gwasanaeth am ddim i bobl gyflogedig neu hunangyflogedig sy’n byw neu’n gweithio yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg, Sir Fynwy a Chasnewydd.

Codwch y ffôn heddiw er mwyn manteisio ar y gwasanaeth 01745 336442.

Cynigir ein holl gymorth dros y ffôn, dros Zoom neu’n bersonol.

“Dechreuodd y therapi o fewn wythnos, ac roedd gallu cyrraedd gwraidd y broblem mor gyflym a’i datrys yn teimlo fel achubiaeth i mi. Roedd haul ar fryn eto, roedd yn wych. Byddwn yn sicr yn argymell y gwasanaeth”.

“Roedd fy therapydd yn hynod ddifyr, ac wrth i’r sesiynau fynd yn eu blaen roedd yn ymddangos eu bod yn mynd yn gynt ac yn gynt. Roeddwn i’n teimlo fy mod wedi ymlacio gyda hi ac yn gallu siarad yn gwbl agored. Roeddwn i’n teimlo fod rhywun yn gwrando arnaf i go iawn”.

“Roedd gennyf ddealltwriaeth o batrymau nad oeddynt yn ddefnyddiol ac yn gweld fy hun yn gallu cynnig y cymorth roeddwn yn ei roi i mi fy hun i bobl eraill. Roeddwn yn ansicr ynghylch mynd yn ôl i’r gwaith, ond cefais ffyrdd i fesur sut oeddwn i’n ymdopi â phopeth yn wrthrychol. Heb y sesiynau, byddwn wedi cymryd mwy o absenoldeb ac yn dioddef ag iechyd meddwl gwael. Rwy’n teimlo’n well am sut i reoli rhywbeth nad yw’n gyfrifoldeb arnaf a sylweddoli pan mae pethau’n mynd yn heriol.”

Therapïau siarad

Mae ein therapïau siarad yn ceisio eich helpu chi i reoli straen, lleihau gorbryder a meithrin dulliau ymdopi. Rydym yn cynnig amrywiaeth o therapïau am ddim ar alw drwy ein rhwydwaith proffesiynol o ymgynghorwyr, therapyddion ymddygiadol gwybyddol a seicolegwyr clinigol.

Cysylltu â chyflogwyr

A ydych chi’n ystyried trafod cyflwr iechyd gyda’ch cyflogwr, eisiau holi am newid oriau neu ddyletswyddau, neu drafod pryderon ynghylch rolau neu berthnasau yn y gwaith? Gallwn eich helpu chi i baratoi ar gyfer trafodaethau gyda’ch cyflogwr, neu gallwn siarad gyda nhw ar eich rhan.

Hawliau cyflogaeth

Mae bob amser yn fuddiol gwybod lle’r ydych yn sefyll – gallwn ddarparu gwybodaeth gyfredol i chi am eich hawliau a’ch haeddiannau yn y gwaith.

Dyled a chyllid

Gall trafferthion ariannol ychwanegu at y straen o gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith. Rydym yn eich helpu chi i gael cymorth arbenigol gyda chyllid neu ddyled.

Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith De-ddwyrain Cymru

Ariennir Cymorth yn y Gwaith de ddwyrain Cymru yn llawn gan Lywodraeth Cymru, gan ddarparu cefnogaeth rad ac am ddim ar gyfer pobl gyflogedig a hunangyflogedig yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg, Casnewydd a Sir Fynwy.
I gael gwybod sut allwn eich helpu chi, cysylltwch heddiw ar:

FFONIWCH: 01745 336442
E-BOSTIWCH: hello@rcs-wales.co.uk

Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith De-ddwyrain Cymru

Ariennir Cymorth yn y Gwaith de ddwyrain Cymru yn llawn gan Lywodraeth Cymru, gan ddarparu cefnogaeth rad ac am ddim ar gyfer pobl gyflogedig a hunangyflogedig yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg, Casnewydd a Sir Fynwy.
I gael gwybod sut allwn eich helpu chi, cysylltwch heddiw ar:
FFÔN: 01745 336442
E-BOST: hello@rcs-wales.co.uk