Dathlodd RCS ddegawd o lwyddiant ddydd Iau mewn dathliad ysblennydd ym mwyty 1891 ym Mhafiliwn y Rhyl – cafodd y cwmni hefyd wybod bod y pecyn cyllid ar gyfer ei wasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn mynd i gael ei ymestyn.

Wrth siarad fel gŵr gwadd yn y digwyddiad pen-blwydd, cyhoeddodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, becyn cyllid gwerth £9.4 miliwn gan yr UE a Llywodraeth Cymru i ymestyn y gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith hyd at fis Ragfyr 2022, gyda £6.2 miliwn o’r cyllid hwnnw yn mynd i RCS i gyflwyno’r gwasanaeth yng Ngogledd Cymru.

Mae hyn ar ben y £10 miliwn y mae RCS wedi’i ddenu i Ogledd Cymru dros y deng mlynedd ddiwethaf i ddarparu amrywiaeth o brosiectau a gwasanaethau i helpu pobl i ddod o hyd i waith, i gynnal cyflogaeth ac i wneud cynnydd mewn cyflogaeth trwy wella eu lles, eu hiechyd a’u cyflogadwyedd. Mae RCS wedi helpu 800 o bobl ddi-waith i gael swyddi, wedi creu cyfleoedd cyflogaeth gyda chymorth i 560 mwy, wedi helpu i sefydlu dros 48 o fusnesau newydd , ac wedi darparu cyfleoedd hyfforddiant cysylltiedig â gwaith i dros 5,000 o bobl.

Hefyd yn siarad yn y digwyddiad pen-blwydd oedd Ceri Witchard, Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiannau Cymunedol, yr Athro John Parkinson, Cadeirydd RCS a Phennaeth Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, a Steve Ray, Cyfarwyddwr RCS. Cafodd y gwesteion hefyd gyfle i weld dangosiad arbennig o ffilm fer bwerus gan y gwneuthurwr ffilm Will Philpin (When It Rains Creative) yn adrodd dwy stori bersonol am effaith y rhaglen Hwb! a’r gwasanaeth Cymorth Mewn Gwaith.

Sefydlwyd RCS fel cwmni buddiannau cymunedol yn 2008, ar ôl cael ei ddewis yn 2007 i fod yn un o 15 ardal i dreialu Strategaeth Dinasoedd yr Adran Gwaith a Phensiynau. Ar hyn o bryd, mae’r cwmni yn cyflogi 17 o bobl yn ei swyddfeydd yn y Rhyl a Bangor.

Cyfrifwyd bod cyfanswm gwerth lles gwaith RCS Cymru dros y degawd diwethaf o ran gwella lles, iechyd a hapusrwydd pobl yng Ngogledd Cymru yn £33 miliwn.