Gan adeiladu ar lwyddiant ein cynllun masnachu prawf a oedd wedi cefnogi 20 o bobl i fynd i fyd busnes yn 2010, gwnaethom greu rhaglen ddwys o gefnogaeth i ennyn diddordeb ac ysbrydoli pobl leol i sefydlu busnes. Cyflwynwyd y rhaglen mewn partneriaeth ag Asiantaeth Fenter Sir Ddinbych ac fe’i hariannwyd gan Raglen Cymunedau Arfordirol y Gronfa Loteri Fawr. Darparodd Atebion Mentrus ystod o ddigwyddiadau hyfforddi pwrpasol gyda’r nod o helpu perchnogion busnesau bach i wella eu sgiliau a gyrru twf eu busnes, ochr yn ochr â chymorth mentora a chyfleoedd rhwydweithio.