Casglwyd £1700 gan westeion ym mhriodas Chrissie a Huw Bill o Sir Ddinbych yn ystod Gorffennaf 2019, wedi i’r pâr priod ofyn am gyfraniadau i’r RCS yn hytrach nag anrhegion priodas. Chrissie wnaeth y cais gan iddi dderbyn cymorth gan ein Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith, ac am ei bod hi eisiau sicrhau bod eraill yn gallu elwa yn yr un modd. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar syniadau ar gyfer prosiect newydd i ddarparu cymorth arbenigol i’r rheiny sydd yn gyflogeion am y tro cyntaf, yn y gobaith o sicrhau etifeddiaeth bwerus i rodd hael Chrissie a Huw.